About Us


DP Welding & Engineering are based in the picturesque town of Amlwch, which is situated in the North of Anglesey and can easily be accessed via the A5025 main road following crossing the Britannia Bridge onto Anglesey.

We offer steel fabrication and welding services both in our workshop and on-site and the majority of our work is within Anglesey and North Wales, but we have also undertaken work within the Cheshire area. DP Welding & Engineering are available to travel to all areas of Wales, UK and Ireland at any time.

We pride ourselves on being a reputable company that cares for our customers. We offer a fast and cost-efficient service to the commercial, industrial, retail, marine and private sector.

Our general works consists of structural steelwork, fire escapes, structural alterations, farm and industrial machinery manufacture and repair, stairs, handrails, balustrades, gates, railings, and are specialists in Stainless Steel / Toughened Glass Panel bespoke balconies using the Q-Rail system.

A vast amount of our work includes working with Stainless Steel and Aluminum and we are proud of the fact that we can undertake bespoke work to the highest of standards.

DP Welding is with you every step of the journey from the initial design and planning of the contract right the way through to the manufacturing, and installation of the finished product.

All our work, both within the workshop and on-site are undertaken by certified tradesmen who are highly skilled.

Health and Safety is our main priority at all times when undertaking work and it is a requirement that we take extremely seriously. A Best Current Practice (BCP) Risk-Assessment is implemented prior to commencing any job.

We are insured for every aspect of steel fabrication and welding that takes place within the workshop and also on-site.

Please feel free to contact us for any further information or to discuss your requirements.


Mae DP Welding & Engineering wedi ei leoli yn nhref hanesyddol Amlwch, yng Ngogledd Môn. Ar ôl croesi Pont Britannia i Ynys Môn, dilynwch briffordd yr A5025 i gyrraedd Amlwch.

Rydym yn cynnig gwasanaethau saernïo dur a weldio yn ein gweithdy ac ar y safle ac mae’r rhan fwyaf o’n gwaith ar yr ynys ac yng Ngogledd Cymru, er ein bod wedi gweithio hefyd yn ardal Swydd Gaer. Mae DP Welding & Engineering yn fodlon teithio i bob cwr o Gymru, DU ac Iwerddon unrhyw adeg.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gwmni dibynadwy sy’n rhoi lle canolog i’n cwsmeriaid. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyflym a chost effeithiol i’r sector masnachol, diwydiannol, manwerthu, morol a phreifat.

Mae ein gwaith cyffredinol yn cynnwys gwaith dur strwythurol, diangfeydd tân, gwaith addasu strwythurol, cynhyrchu a thrwsio peiriannau fferm a pheiriannau diwydiannol, grisiau, canllawiau, balwstradau, gatiau, rheiliau ac arbenigwn mewn balconïau pwrpasol Dur Gwrthstaen / Paneli Gwydr Gwydn trwy ddefnyddio system Q-Rail.

Mae rhan helaeth o’n gwaith yn cynnwys gweithio gyda Dur Gwrthstaen ac Alwminiwm ac ymfalchïwn yn y ffaith ein bod yn gallu cynnig gwaith pwrpasol o’r safon uchaf.
Mae DP Welding gyda chi ar bob cam o’r daith, o’r gwaith dylunio cychwynnol i gynhyrchu, a gosod y cynnyrch gorffenedig.

Mae ein holl waith yn y gweithdy ac ar y safle’n cael ei wneud gan grefftwyr ardystiedig, hynod o fedrus.

Rhoddir blaenoriaeth bob amser i Iechyd a Diogelwch wrth weithio ac mae’n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried yn faes hynod o bwysig. Gwneir Asesiad Risg Arfer Gorau Cyfredol cyn dechrau unrhyw waith.

Mae gennym yswiriant ar gyfer pob agwedd o saernïo dur a weldio sy’n digwydd yn y gweithdy a hefyd ar y safle.

Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael unrhyw wybodaeth bellach neu drafod eich gofynion.